Caru Gwenyn Yn Ein Gardd

Gardd Cletwr a Chynllun Caru Gwenyn

O’r cychwyn cyntaf un, roedd Cletwr am greu gardd o amgylch y safle oedd mor gyfeillgar â phosibl i fywyd gwyllt. Felly, pan glywson ni am Gynllun Caru Gwenyn Llywodraeth Cymru, roedden ni’n awyddus i weithio tuag at gyrraedd statws Caru Gwenyn. Mae’r cynllun yn hybu pob math o beillwyr ac nid dim ond gwenyn.

Mae’n cynnwys cwblhau o leiaf un cam gweithredu o dan 4 thema eang: Bwyd, Cartref Pum Seren, Dim Plaladdwyr a Hwyl.

Bwyd

Ar gyfer y thema hon, fe wnaethon ni sicrhau bod cymaint o’r plannu â phosibl yn ein borderi a photiau’n cael ei wneud gyda phryfed peillio mewn golwg.

Rydyn ni hefyd wedi datblygu patshyn bach o ddôl mewn un gongl lle’r oedd y pridd eisoes yn wael (rhywbeth sy’n cael ei ffafrio gan y rhan fwyaf o flodau gwyllt). Fe wnaeth rhai o’r planhigion eu hadu eu hunain yno ond hefyd defnyddion ni blygiau planhigion a brynwyd neu a dyfwyd gynnon ni’n hunain. Bob hydref, unwaith i’r planhigion orffen blodeuo byddwn ni’n torri’r ddôl gan fynd â’r torion oddi yno i’w compostio. Mae hyn yn helpu i gadw cyflwr y pridd yn wael gan adael i’r planhigion sydd heb fod mor wydn gystadlu â’r glaswellt.

Rydyn ni hefyd wedi plannu hadau’r gribell felen bob hydref. Mae’r hadau hyn yn lled barasitig ar y glaswellt hir gan ei wanio – unwaith eto, mae hyn yn gadael i blanhigion blodau gwyllt eraill ffynnu.

Cartref Pum Seren

Fe wnaethon ni blannu gwrych brodorol sydd, yn ogystal â bod yn ffynhonnell fwyd i beillwyr ac adar, yn darparu lle i bryfed lochesu dros y gaeaf.

Yn hytrach na thorri’r holl blanhigion ar ddiwedd tymor yr haf, byddwn ni hefyd yn gadael digon o goesynnau marw fel lloches i bryfed dros y gaeaf.

Adeiladodd Richard o’r grŵp garddio westy bendigedig i bryfed o bob math a chrëwyd arwydd hardd iddo gan un o’n haelodau ifancaf.

Gwesty pryfed

Dim Plaladdwyr

Fyddwn ni ddim yn defnyddio plaladdwyr, chwynladdwyr nac unrhyw gemegion eraill yn yr ardd gan annog pobl eraill i ymatal rhag eu defnyddio drwy daflenni a phosteri.

Hwyl

Y syniad y tu ôl i’r thema hon yw cynnwys cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn y gymuned yn yr hwyl wrth ddysgu am bwysigrwydd pryfed peillio a darparu ar gyfer eu hanghenion.

Oherwydd cyfnodau clo Covid 19, fe’n cyfyngwyd braidd o ran beth y gallen ni ei wneud, ond fe lwyddon ni i gynnal cystadleuaeth Paradwys i Beillwyr, lle gwahoddwyd pobl i anfon lluniau aton ni o’r baradwys roedden nhw wedi’i chreu i beillwyr yn eu gerddi. Hefyd, lluniwyd erthyglau gynnon ni i’r papur bro lleol, Papur Pawb, gan annog y darllenwyr i helpu peillwyr, ynghyd â gosod posteri y tu allan i Gletwr i’r un diben.

Hefyd mae gynnon ni stondin blanhigion sy’n annog pobl i gyfrannu planhigion, yn enwedig rhai sy’n gyfeillgar i beillwyr, y mae pobl eraill wedyn yn gallu eu codi am ryw gyfraniad ariannol bach. Fel hyn, ein gobaith yw y bydd planhigion sydd at ddant ein peillwyr yn cael eu plannu mewn gerddi eraill a buddsoddir yr holl arian a roddir yn ôl i’n gardd ni.

Mae gan Gletwr dudalen Paradwys i Beillwyr arbennig ar Facebook lle byddwn ni’n postio newyddion am yr ardd a dolenni diddorol â gwybodaeth am beillwyr a garddio sy’n eu cadw mewn golwg: facebook.com/CaruGwenynCletwr/

Statws Caru Gwenyn

Gwefr fawr i ni oedd cael clywed ym mis Mehefin 2021 i ni fod yn llwyddiannus wrth sicrhau statws Caru Gwenyn, gan dderbyn tystysgrif a’r hawl i ddangos logo’r cynllun yn ein cyhoeddusrwydd a deunyddiau eraill.

Ym mis Medi 2021 buon ni’n ddigon ffodus i ennill cystadleuaeth Pollin-8 Bee The Change yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn i erddi cymunedol.

Yn ystod y flwyddyn ganlynol, aethon ni ati i ddatblygu ein syniadau ymhellach, e.e. creu pwll pryfed hofran a chynnal sgwrs am wyfynod a gŵyl beillwyr. Ym mis Mehefin 2022, adnewyddwyd ein statws Caru Gwenyn a byddwn ni’n parhau i wneud ein gorau glas dros ein hannwyl bryfed peillio gan gynnwys y gymuned cymaint ag y gallwn ni yn hyn o beth.

Hoverfly Lagoon
Polinator Festival Banner

Beth am feddwl am weithio tuag at statws Caru Gwenyn gyda’ch grŵp cymunedol/ysgol/addoldy/pentre? Am fwy o wybodaeth ac astudiaethau achos, gan gynnwys un ar gyfer Cletwr, gweler: biodiversitywales.org.uk/Caru-Gwenyn.

Os hoffech ymuno â grŵp garddio Cletwr, mae bob amser groeso i wirfoddolwyr newydd beth bynnag yw lefel eich profiad o arddio. Cysylltwch ag events@cletwr.com am fwy o wybodaeth.