
Prosiect gan Cletwr (2019-21) oedd Dathlu Cymuned lle bu aelodau o gymuned Llangynfelyn yn mynd ati i ystyried a rhannu agweddau ar yr amgylchedd hanesyddol, diwylliannol a naturiol.
Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyda chyllid ychwanegol gan ein partneriaid, Ymddiriedolaeth Natur Vincent, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
O ganlyniad, mae’r Storifa, hyb gwybodaeth lliwgar, wedi’i chodi bellach fel nodwedd o ddiddordeb y tu allan i’r Cletwr.
Gellir defnyddio’r daflen hon y gellir ei lawrlwytho yma fel map i grwydro pentrefi Tre’r-ddôl a Thre Taliesin ac fel cyflwyniad i’r oll sy’n gwneud Llangynfelyn yn lle arbennig.
Prosiect Cymuned Creadigol
Dyma wahoddiad i gymeryd rhan mewn prosiect cymunedol cyffroes gyda Celf Cletwr.
Bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i gymeryd rhan mewn cyfres o weithdai celf, wyneb yn wyneb (yn y dyfodol)ac ar-lein, ac i gydweithio gyda Elin Crowley ar ddarn gorffenedig fydd yn cael ei arddangos yng Nghaffi Cletwr yn hir dymor.
Ebostiwch elinvj@hotmail.com, neu ffoniwch 07743575017 os hoffech fod yn rhan o’r prosiect. Bydd Elin mewn cyswllt gyda chi i drafod posibiliadau a syniadau.
https://www.facebook.com/Prosiect-Cymuned-Creadigol-Creative-Community-Project-108015641157828






