Meet our new manager, Jemima Mac Monagail

Meet our new manager, Jemima Mac Monagail

7th October 2026 Uncategorized 0
Jemima Mac Monagail

Bellach rydym wedi croesawu ein rheolwr newydd, Jemima Mac Monagail. Un o’r ardal ’ma yn wreiddiol ond sydd bellach wedi symud ’nôl yw hi, ac mae ganddi lawer o brofiad yn y sector manwerthu. Gofynnais iddi ddweud rhywbeth amdani ei hun wrthym:

“Rwy’n falch iawn o ymuno â Cletwr fel Rheolwr Cyffredinol ac o fod yn ôl yng Ngheredigion, ar ôl symud i Langynfelyn yn ddiweddar gyda fy nheulu ifanc.

Er fy mod i’n dod o’r ardal yn wreiddiol, rwyf wedi treulio’r 11 mlynedd diwethaf yn byw yn Iwerddon, lle adeiladais fy ngyrfa mewn rheolaeth manwerthu. Yn ystod yr amser hwnnw, cefais brofiad helaeth o arwain timau, rheoli gweithrediadau o ddydd i ddydd ac, yn bwysicaf oll, creu mannau croesawgar lle mae pobl yn mwynhau dod at ei gilydd.

Mae dychwelyd i Geredigion a dod yn rhan o Cletwr yn teimlo fel pennod newydd gyffrous iawn. Rwy’n arbennig o angerddol am y rôl y mae Cletwr yn ei chwarae yng nghanol y gymuned – o ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymuned wledig yng Ngorllewin Cymru, i gefnogi pobl ifanc a’u helpu i ddatblygu sgiliau bywyd gwerthfawr.

Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod y gymuned leol, gweithio gyda’r tîm gwych a helpu Cletwr i barhau i dyfu a ffynnu. Rhan fawr o fy rôl fydd creu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau, ac rwy’n gyffrous i helpu i wneud Cletwr yn lle lle mae rhywbeth yn digwydd bob amser a phawb yn teimlo’n gartrefol.

Ar ôl 11 mlynedd i ffwrdd, mae’n hyfryd bod gartref – ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o gymuned Cletwr.”

We have now welcomed our new manager, Jemima Mac Monagail. She is originally from this area and has now moved back, bringing considerable experience in the retail sector. We asked her to tell us something about herself:

“I’m delighted to join Cletwr as General Manager and to be back in Ceredigion, having recently moved to Llangynfelyn with my young family.

“Although I’m originally from the area, I’ve spent the past 11 years living in Ireland, where I built my career in retail management. During that time, I gained extensive experience in leading teams, managing day-to-day operations and, most importantly, creating welcoming places where people enjoy coming together.

“Returning to Ceredigion and becoming part of Cletwr feels like a very exciting new chapter. I’m especially passionate about the role Cletwr plays at the heart of the community—from providing essential services to a rural community in north Ceredigion, to supporting young people and helping them develop valuable life skills.

“I’m looking forward to getting to know the local community, working with the fantastic team and helping Cletwr continue to grow and thrive. A large part of my role will be creating opportunities for people to come together through events and activities, and I’m excited to help make Cletwr a place where there is always something happening and everyone feels at home.

“After 11 years away, it’s lovely to be home—and I’m very much looking forward to being part of the Cletwr community.”