Yn Eisiau: Gwirfoddolwr i helpu i ofalu am Lyfrgell Gymraeg gymunedol Cletwr / Wanted: A volunteer to help with looking after Cletwr’s Welsh language community library.

Yn Eisiau: Gwirfoddolwr i helpu i ofalu am Lyfrgell Gymraeg gymunedol Cletwr / Wanted: A volunteer to help with looking after Cletwr’s Welsh language community library.

17th February 2022 Community 0

Dyma gyfle i estyn eich gwybodaeth o’r Gymraeg a helpu eraill i symud ymlaen wrth ddysgu.

Yn y lle cyntaf, mae angen rhywun i gysylltu â phobl pan fydd angen i’w hatgoffa nhw i ddod â llyfrau’n ôl os byddant yn hwyr ac i dacluso’r Llyfrgell unwaith y pythefnos. Yn ddelfrydol, rhaid gallu siarad Cymraeg yn ddigon da i siarad â phobl ar y ffôn neu anfon neges destun yn y Gymraeg – byddai’n siwtio dysgwr brwd ac yn cynnig cyfle gwych i ymarfer! Dyma ffordd dda iawn o wirfoddoli gyda Cletwr os oes rhaid i chi fod yn hyblyg o ran pryd rydych chi’n helpu ac nid yw’n cymryd llawer o amser bob wythnos.

Cyfle i fod yn rhan o gymuned amrywiol a helpu i gynnal gwasanaeth benthyca am ddim yn ein hadeilad arobryn.

Extend your knowledge of the Welsh language and help others to progress their learning.

To begin with, we need someone to contact people when necessary to remind them to bring books back if they’re late and to tidy the Library about once a fortnight. Ideally, you should be able to speak Welsh well enough to speak to people on the phone or send them a text in Welsh – it would suit an enthusiastic Welsh learner and would be great practice! This is a very good way to volunteer with Cletwr if you need to be flexible in terms of when you help and it doesn’t take up much time each week.

A chance to be a part of a diverse community and help maintain a free lending service in our award winning building.