Celf Cletwr Art

Nod y prosiect

03/01/20 – 04/03/20

Dathlu Cymuned yw datgelu treftadaeth naturiol, hanesyddol a diwylliannol pentrefi Tre’r-ddôl a Thre Taliesin. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl yn y gymuned wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sydd wedi edrych ar y dreftadaeth leol ac wedi helpu wrth benderfynu beth sy’n hynod am y fro. Mae syniadau a gwybodaeth wedi’u casglu i gyfrannu i’r paneli dehongli a osodir yn y Storifa y tu allan i adeilad y Cletwr.

Mae aelodau Grŵp Celf Taliesin wedi cyfrannu i Dathlu Cymuned gan gynhyrchu cyfres o luniau o adeiladau nodedig. Maent hefyd wedi paentio lluniau sy’n darlunio gwahanol agweddau ar y ddau bentref. Mae dau ffotograffydd lleol, Jon Clarke a Neil McGuff, wedi cofnodi delweddau o adfeilion, simnai hen fwynglawdd, hen gapel a rhai o nodweddion gwarchodfa natur Cwm Cletwr. Crëwyd tirlun ffelt gan Jenny Dingle ac aelodau o’r gymuned yn ystod gweithdy yn nigwyddiad cyflwyno Dathlu Cymuned ym mis Chwefror 2019. Mae’r dylunydd Rachel Booth wedi cynllunio’r map o’r pentref a fydd yn ganolbwynt i’r Storifa.


Cwiltiau

06/01/2020 – 30/03/20

Cafodd y cwiltiau hyn eu gwneud dros gyfnod o bum mlynedd. Rwy wastad wedi mwynhau defnyddio lliwiau mewn gwaith tecstiliau. Rwy’n gwneud cwiltiau am fod defnydd ymarferol iddynt yn ogystal â bod yn fynegiant artistig. Mae’r holl gwiltio wedi’i wneud ar fy mheiriant gwnïo adre.


Rob Davies

05/03/20 – 30/04/20

Panorama

Dyma’r lluniau dwi wedi eu tynnu ar fy ffôn clyfar dros gyfnod o dair blynedd. Yr un olygfa o Cors Fochno a’r pentrefi cyfagos wrth sefyll ger safle hen chwarel ger Coed Tafarn-fach tua 500troedfedd uwchben Taliesin rhyw ugain munud o gerdded o’n cartref.  Dwi wedi cerdded lan yna mewn shorts a chrys T neu wedi fy lapio’n gynnes yn erbyn gwynt main tra’n ryfeddu at y synau gwahanol a glywir bob dydd – adar wrth iddi wawrio a cheir biau’r cyfnos.

Mae’r tymhorau, y tywydd ag amser y dydd yn effeithio ar dapestri’r tirlun. Daw’r  lliwiau, y dail, y caeau, y cymylau, y llanw, a’r cysgodion i greu darluniau newydd. Mae i bob darn o dir ei ddefnydd a mynegir hyn trwy’r delweddau syml yma.

Tynnwyd y lluniau mewn eira, haul llachar neu dan gwmwl mor isel fel nag oedd modd gweld y gorwel. Roeddwn wedi fy ngwisgo’n gynnil, dim trapings ac felly yn agored i fwynhau’r newidiadau cyson: symudiadau’r defaid a’r gwartheg o gae i gae; tir pori wedi ‘i dyfu a’i fedi; tro a chwymp y dail; llif a thrai; cymylau a’u cysgodion yn llithro. Mae’n berthynas bersonol, ond yn un i ni i gyd ei rhannu.


Alice Thomas

02/04/20 – 02/07/20

Weaving Wild –  Macramé Modern

Weaving Wild yw’r uchafbwynt o flwyddyn a dreuliwyd yn archwilio gwaith cwlwm creadigol a lliwio’n naturiol. Mae cariad Alice am y tir a lleoedd gwyllt yn cael ei blethu i mewn i’w gwaith gan ddefnyddio lliw gwyllt, fforio a deunyddiau naturiol i greu darnau Macramé hardd.

Mae Alice, sef artist Macramé hunan-ddysgedig, wedi bod yn dysgu a’n gwneud Macramé am y chwe blynedd diwethaf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi arddangos ei gwaith yn Oriel Minerva, Llanidloes fel rhan o Ŵyl Wool and Willow, ac mae wedi bod yn llwyddiannus wrth werthu ei gwaith yn nhrefi lleol sef Aberystwyth a Machynlleth.

Magwyd Alice ger Aberystwyth ac astudiodd gwrs Celf a Dylunio yng Ngholeg Ceredigion. Penderfynodd y peintiwr a’r darlunydd, Alice, droi at Facramé drwy ei chariad at decstilau a’i hawydd i greu darnau ymarferol yn ogystal â gwaith celf.

Mae lliwio gwyllt wedi bod yn ddilyniant naturiol, gan ei fod yn gwau ei chariad at deithiau cerdded naturiol a’n fforio i’w harfer artistig. Mae darganfod mwy am y planhigion a’r coed o’i hamgylch a sut i’w defnyddio yn ei gwaith wedi bod yn bleser ac yn llawenydd iddi.


Jenny Fell

28/4/20 – 29/6/20

Bywyd Gwyllt y Ddyfi (a phellach i ffwrdd)

Yn yr arddangosfa hon o waith Jenny Fell, dangosir printiadau leino newydd yn ogystal â hen ffefrynnau. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn darlunio bywyd gwyllt y Ddyfi – ardal y mae Jenny wedi byw ynddi am 25 o’r 40 o flynyddoedd mae hi wedi’u treulio yng Nghymru. Mae ei chariad at fyd natur, ei chonsyrn am yr amgylchedd a theithiau cerdded yn yr ardal wedi ysbrydoli llawer o’i gwaith artistig.

Ar ôl cwblhau ei gradd yn Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth ym 1981 roedd Jenny’n benderfynol o barhau a’i gwaith printio, ac fe sefydlodd stiwdio yng Nghanolfan y ‘Sgubor, Aberystwyth gynt, gyda grant tuag at y cyfarpar gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mangl o’r oes Fictorianaidd oedd ei gwasg gyntaf a brynwyd am £5, a defnyddiodd hen leino oedd yn cael ei waredu o Ganolfan y ‘Sgubor. Ers hynny mae Jenny wedi derbyn nifer o grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ei gwaith.

O’r cychwyn cyntaf, agorodd Jenny ei stiwdio i eraill gael cymryd rhan mewn gweithdai argraffu (sgrîn a leino) ac am flynyddoedd bu’n gweithio gyda chleientiaid o Ysbyty Dydd Gorwelion a phobl o rannau eraill o’r gymuned.

Arweiniodd diddordeb Jenny yn yr amgylchedd at waith ar y cyd gyda’r mudiad celf ac amgylchedd Creuad yn ystod y degawd ar ôl 2000 (wedi’i gyfarwyddo gan Shelagh Hourahane, ac ar y cychwyn, gan Lynne Denman). Gyda Creuad gweithiodd gyda’r ysgol gynradd leol, grwpiau cymunedol ac artistiaid eraill ar brosiectau fel ‘Sense of Arrival’ yng Nghanolfan Ymwelwyr Gwarchodfa Natur Ynyslas, mosaig byd natur y warchodfa (2003), ynghyd â phrosiect printio gydag Ysgol Tregaron yn rhan o brosiect yn tynnu sylw at fflora a ffawna Cors Caron.

Mae gwaith arall gydag ysgolion gyda Creuad yn cynnwys prosiect printio arall gyda disgyblion Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth, unwaith eto’n canolbwyntio ar fywyd gwyllt Gwarchodfa’r RSPB yn Ynys-hir.

Rhwng 2001-2009 Jenny oedd yr Artist Preswyl mewn ysbytai drwy ogledd-ddwyrain Cymru oedd yn golygu gweithio ar brosiectau creadigol gyda chleifion a staff. Dyma ddyddiau cynnar y Celfyddydau mewn Iechyd pan oedd Cymru’n arloesi. Erbyn hyn mae gwaith o’r fath yn digwydd ledled y Deyrnas Unedig. Arweiniodd y gwaith hwn at ddatblygiad pellach yng ngyrfa Jenny sef astudio, 15 mlynedd yn ôl, i fod yn seicotherapydd. Mae’n dal i weithio yn y maes hwn yn arbennig gyda phobl sy’n byw â dementia.

Mae Jenny wedi cymryd rhan mewn mwy na 50 o arddangosfeydd ledled y Deyrnas Gyfunol ac wedi creu’r darluniau ar gyfer sawl llyfr i blant a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer.