Call to Photographers!
Galwad i Ffotograffwyr!
Mae Celf Cletwr Art yn falch o gyhoeddi bydd ein Arddangosfa Agored yr Haf yng nghyfrwng ffotograffiaeth, gyda’r thema ‘Darganfod’ – yn cysylltu gyda ‘Blwyddyn Darganfod Cymru’ Croeso Cymru:
“Yn ystod Blwyddyn Darganfod Cymru gwahoddwn ymwelwyr i archwilio be sy’n gwneud Cymru’n unigryw” (https://www.croeso.cymru/cy).
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unrhyw un 16+ sy’n byw yn ardal Bïosffer y Dyfi ac oddi wrth ffotograffwyr o bob gallu. Delweddau gwreiddiol wedi eu tynnu gan y ffotograffydd a enwir yn unig.
Am fwy o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch ag Anne Thomas (exhibitions@cletwr.com).
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: Mai 31 2019.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Cletwr rhwng Mehefin 27 a Medi 4 2019.
Call to Photographers!
Celf Cletwr Art is pleased to announce our Summer Open Exhibition will be in the medium of Photography, with the theme ‘Discovery’ – linking to the Visit Wales ‘Year of Discovery’ :“In the Year of Discovery we’re inviting visitors to explore what makes us uniquely Wales” (https://www.visitwales.com/discovery).
Submissions are invited from anyone 16+ residing in the Dyfi Biosphere area and to all levels of photographer. Original images taken by the named photographer only.
For more information and application forms contact Anne Thomas (exhibitions@cletwr.com).
Closing date to apply: May 31st 2019.
The exhibition will be on show at Cletwr from 27 June to 4 September 2019.
