New Textile Exhibition – February 2019

New Textile Exhibition – February 2019

11th February 2019 Art 0

‘DOD I’R WYNEB’

Arddangosfa brodwaith gan Helen Pugh.

Mae elfennau gweledol yn gwahanu ac yn ymuno yn dod i’r wyneb ac yn suddo heb adael eu hôl, yn efelychu amrywiadau’r llanw.

Ym 1995 cwblhaodd Helen gwrs Brodwaith Prifysgol Fetropolitan Manceinion gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a diddordeb gydol oes mewn tecstilau hanesyddol a chyfoes. Wedi ymddeol o yrfa dysgu, dychwelais i Dywyn, Gwynedd, cartref teuluol fy nhad, ac nawr rwy’n byw ar lan y môr.

Nid oedd modd osgoi dylanwad yr arfordir ar fy ngwaith. Rwy’n trin deunyddiau mewn modd ymatebol gan gyfeirio at decstilau wedi’u llunio ac at frodwaith. Gweithredoedd syml, wedi’u hailadrodd yn eu tro er mwyn creu lefel dyfnach o gymhlethdod, sy’n creu’r arwyneb. Fy mwriad yw eu bod yn dwyn pethau i’r cof, yn ennyn chwilfrydedd ac yn denu’r gwyliwr. Gellir darllen fy ngwaith mewn nifer o ffyrdd, gyda dirywiad amgylcheddol yn adleisio syniadau seicolegol o ofal ac atgyweirio.

‘SURFACING’

Embroidery exhibition by Helen Pugh.

Visual elements diverge and converge surfacing and sinking without trace, simulating tidal variations.

In 1995 Helen attended the Embroidery course at Manchester Metropolitan University graduating with a 1st Class (Hons) degree and a lifelong interest in textiles both historical and contemporary. On retiring from a career in teaching I returned to Tywyn, Gwynedd, my father’s family home, and now live by the sea.

Inevitably the coastline has become an important theme for my work. I manipulate materials in a responsive way referencing constructed textiles and embroidery. The surfaces are the outcome of simple actions repeated sequentially to acquire a deeper level of complexity. They are intended to be evocative, to arouse curiosity and draw the viewer in. My work can be read in a number of ways, the effects of environmental degradation finding a parallel in psychological notions of care and repair.