Dywedwch inni beth yw eich barn.
Mae Cletwr wedi bod ar agor ers un mlynedd ar ddeg bellach, a hoffem wybod mwy am yr hyn y mae ein cwsmeriaid yn ei feddwl am yr hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud, ac am yr hyn y dylem ei ychwanegu neu ei newid yn y dyfodol. Menter gymunedol yw Cletwr, ac mae’n bwysig bod pob aelod o’r gymuned yn cael cyfle i ddylanwadu ar yr hyn sy’n mynd ymlaen yno. Hoffem hefyd ddysgu ychydig am bwy yw ein cwsmeriaid (a phwy nad ydyn nhw! Os nad ydych chi’n defnyddio Cletwr rydym dal eisiau clywed eich barn)
Mae’n dechrau gyda gofyn ychydig o gwestiynau cyffredinol amdanoch (dim enwau! Mae’n gwbl dienw.), wedyn mae’n holi eich barn ar y Cletwr presennol a sut rydych yn ei ddefnyddio. Yna mae’n symud ymlaen at ychydig o gwestiynau am bosibiliadau i’r dyfodol. Dim ond ychydig funudau ddylai gymryd.
Dyma ddolen i’r arolwg ar-lein: https://forms.gle/zjC1r1eTNxn331j89
Diolch yn fawr ymlaen llaw.